Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 20 Medi 2016
Amser: 08.30 -
09.03
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC Jane Hutt AC Simon Thomas AC Paul Davies AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Nathan Gill AC Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Roedd Nathan Gill AC yn bresennol yn y cyfarfod, yn unol â RhS 11.5(iii).
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion i'w cyhoeddi.
Byddai’r Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar y Rhaglen Lywodraethu ddydd Mawrth.
Byddai Plaid Cymru yn defnyddio'r amser a neilltuwyd i gynnal dwy ddadl 30 munud ddydd Mercher.
Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ar ddydd Mawrth yn digwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ar ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 28 Medi 2016 –
· Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar agwedd y Pwyllgor at ei gylch gorchwyl, a sut y mae'n bwriadu ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru (30 munud)
Dydd Mercher 12 Hydref 2016 -
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes 2 gynnig ar gyfer dadl.
Dydd Mercher 28 Medi 2016
o NNDM6088
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniad i fynd i'r afael
â TB buchol drwy ymrwymo i ddefnyddio'r dulliau mwyaf
effeithiol o reoli a dileu TB buchol a sicrhau bod y profion a'r
cyfyngiadau symud yn gymesur â statws y clefyd mewn
ardal.
Dydd Mercher 12 Hydref 2016
o NNDM6089
Lee Waters (Llanelli)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Huw Irranca-Davies (Ogwr)
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod amryfal fanteision iechyd a lles gweithgareddau corfforol.
2. Yn nodi mai dim ond 35 y cant o blant Cymru sy'n cael yr awr o weithgareddau corfforol a gaiff ei argymell sydd ei angen arnynt bob dydd.
3. Yn cydnabod potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i godi lefelau gweithgareddau corfforol ymysg pob grŵp oedran.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n llawn â chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a fyddai'n cysylltu cyrchfannau lleol ac a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd da.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnig lle i Nathan Gill ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Cynigiodd UKIP ildio ei le ar y Pwyllgor fel bod ei faint yn aros yr un fath.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i adolygu'r Rheolau Sefydlog ar y diffiniad o grŵp, yn enwedig mewn perthynas ag Aelod yn gadael neu'n cael ei atal o grŵp, a'r berthynas gyda'r Pwyllgor Busnes.
Amser ar gyfer Llefarwyr
Hysbysodd y Llywydd yr Aelodau o'i bwriad i ganiatáu dim ond dwy funud i lefarwyr i wneud eu sylwadau rhagarweiniol yn dilyn datganiad, cyn iddynt ddod at gwestiynau. Ni fydd cloc y Siambr yn cael ei osod ar gyfer pob Aelod, ond bydd y Llywydd yn ymyrryd os nad yw Aelod yn dod at gwestiynau ar ôl dwy funud.
Aberfan
Hysbysodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes am ei bwriad i wahodd arweinwyr y pleidiau a Dawn Bowden AC (Merthyr Tudful a Rhymni) i wneud cyfraniad ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ar 19 Hydref, ynghyd â munud o dawelwch, i nodi 50 mlynedd ers Trychineb Aberfan. Nododd y Rheolwyr Busnes eu bod yn fodlon ar y trefniadau arfaethedig.